Befana
Gwedd
Enghraifft o: | bod dynol ffuglennol, un sy'n dod ag anrhegion Nadolig ![]() |
---|---|
![]() |

Advertisement
Ffigur yn llên gwerin yr Eidal sy'n gysylltiedig â Nos Ystwyll (5 Ionawr) yw'r Befana[1]. Mae hi'n debyg i hen wrach. Mae'n ymweld â holl blant yr Eidal yn y nos i lenwi eu hosanau â phethau da, megis losin, ffrwythau sych a theganau, os ydyn nhw wedi ymddwyn yn dda. Mae'r rhai sydd wedi ymddwyn yn wael yn gweld bod eu hosanau'n llawn glo neu arlleg. Felly mae hi'n cyflawni rôl debyg i rôl Siôn Corn neu Sant Nicolas yng ngwledydd eraill[2]. Mae'r Befana fel arfer yn cael ei phortreadu fel hen wraig yn gwisgo siôl ac yn cario ysgub a sach wedi'i llenwi ag anrhegion. Mae wedi'i gorchuddio â huddygl oherwydd ei bod yn mynd i mewn i gartrefi trwy'r simnai.

Advertisement
Mae'n debyg bod yr enw "Befana" yn llygriad o'r Eidaleg Epifania (yr Ystwyll).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "La Befana - Italian Christmas Tradition". www.italian-link.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Ionawr 2025.
- ↑ Judika Illes (2009). Encyclopedia of Spirits: The Ultimate Guide to the Magic of Fairies, Genies, Demons, Ghosts, Gods & Goddesses (yn Saesneg). t. 269. ISBN 978-0-06-135024-5